Job Opportunity with FFP Member, Action for Children: Operational Director of Children's Services20/7/2023
Location: Remote – With travel across North Wales Salary: £68,800 per annum Directorate: Children's Services Wales Contract Type: Permanent Full Time Closing Date: 28 July 2023 Benefits:
Interviews to be held on: 03 August 2023 at our Wales Office in Cardiff Vulnerable children in the UK need your help Wherever you work in the Action for Children family, you'll be helping to change the lives of the most vulnerable children in the UK. Last year, we helped more than 670,000 children and families across the UK. From direct work in communities to national campaigning, we are focused on making sure every child has a safe and happy childhood, and the foundations they need to thrive. Why Action for Children? Working here is more than a job. Everyone in the Action for Children family is passionate about protecting and supporting children. It's the sense of purpose that drives us every single day. Because we know that, when we work together, we can make a huge difference to bring lasting improvements to vulnerable children's lives. A bit about the role Are you a strong communicator and creative thinker with a flair for innovation who is focused and passionate about changing the lives of children and their families? We have a unique opportunity for an Operational Director of Children's Services to provide leadership and management across Wales. This is an exciting and rewarding role with the opportunity to make a huge personal impact. Reporting to the National Director of Wales, you'll lead, develop and manage a dedicated team of managers who deliver a range of children's services across a specified area. Wales has ambitious plans to grow residential, fostering, criminal exploitation and mental health services whilst ensuring our existing service footprint remains strong and sustainable. This is an exciting opportunity for an inspirational leader who wants to make a difference to the lives of children and young people as part of a passionate and ambitious Wales team. How you'll help to create brighter futures
Let's talk about you
Good to know Application Process There are five sections to complete: Personal Details, CV, Supporting Statement & Information, Equality & Diversity, Submission & Declaration. Talent Pool We know talent when we see it. But sometimes we find the right person but not for the right job. We'd love to keep your details for when the right job comes up. Let us know if you'd rather we didn't. Contact: Scott Jones on 01923 361 778 or at [email protected] Diversity, equality and inclusion At Action for Children, we're dedicated to building a diverse, inclusive, and authentic workplace. We actively encourage applications from Black, Asian & Minority Ethnic and disabled candidates as they are under-represented within Action for Children. We want to take deliberate and purposeful action to ensure equal opportunity to all groups in society and for Action for Children. Don't meet every single requirement? Studies show that women and Black, Asian & Minority Ethnic people are less likely to apply for a job unless they meet every qualification. So, if you're excited about this role but your experience doesn't align perfectly with the job description, we'd love you to apply anyway. You might just be the perfect person for this role, or another role within the Action for Children family. ************* Swydd: Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Plant Cyflog: Tua £68,800 y flwyddyn Lleoliad: O bell – Gyda gofyniad i deithio i wasanaethau ledled Gogledd Cymru Contract/Oriau: Parhaol, Llawn amser – 35 awr yr wythnos Buddion:
Cyfweliadau i'w cynnal ar: 03 Awst 2023 yn Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd Mae angen eich help ar blant sy'n agored i niwed yn y DU Ble bynnag y byddwch yn gweithio fel rhan o deulu Gweithredu dros Blant, byddwch yn helpu i newid bywydau'r plant sydd fwyaf agored i niwed yn y DU. Y llynedd, fe wnaethom helpu mwy na 670,000 o blant a theuluoedd ledled y DU. O waith uniongyrchol mewn cymunedau i ymgyrchoedd cenedlaethol, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob plentyn yn cael plentyndod diogel a hapus, a'r sylfeini sydd eu hangen i ffynnu. Pam Gweithredu dros Blant? Mae gweithio yma yn fwy na swydd. Mae gan bawb yn nheulu Gweithredu dros Blant angerdd tuag at ddiogelu a chefnogi plant. Yr ymdeimlad o bwrpas sy'n ein sbarduno bob dydd. Oherwydd gwyddom, pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth enfawr drwy gyflwyno gwelliannau parhaol i fywydau plant sy'n agored i niwed. Gair neu ddau am y swydd Ydych chi'n gyfathrebwr cryf gyda meddwl creadigol ac arloesol sy'n angerddol ynghylch newid bywydau plant a'u teuluoedd? Mae gennym gyfle unigryw i Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Plant ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth ledled Cymru. Mae hon yn swydd gyffrous a gwerth chweil gyda'r cyfle i gael effaith bersonol enfawr. Gan adrodd i Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru, byddwch yn arwain, yn datblygu ac yn rheoli tîm ymroddedig o reolwyr sy'n darparu ystod o wasanaethau plant ar draws ardal benodol. Mae gan Gymru gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu gwasanaethau preswyl, maethu, cam-fanteisio troseddol ac iechyd meddwl gan sicrhau bod ein gwasanaeth presennol yn parhau i fod yn gryf ac yn gynaliadwy. Dyma gyfle cyffrous i arweinydd ysbrydoledig sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc fel rhan o dîm angerddol ac uchelgeisiol. Sut y byddwch yn helpu i greu dyfodol disglair
Gadewch i ni sôn amdanoch chi
Pethau y dylech eu gwybod Y Broses Ymgeisio Mae pum adran i'w cwblhau: Manylion Personol, CV, Datganiad a Gwybodaeth i Gefnogi eich Cais, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cyflwyniad a Datganiad. Cronfa Dalent Rydym yn adnabod talent pan fyddwn ni'n ei weld. Ond weithiau rydym yn dod o hyd i'r person iawn ond nid ar gyfer y swydd iawn. Byddem wrth ein bodd yn cadw'ch manylion nes bydd y swydd iawn yn codi. Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hynny. Cysylltwch â: Scott Jones ar 01923 361 778 neu [email protected] Amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant Yn Gweithredu dros Blant, rydym yn ymroddedig i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a dilys. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac anabl gan nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn Gweithredu dros Blant. Rydym yn awyddus i gymryd camau bwriadol a phwrpasol i sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp mewn cymdeithas ac i bawb yn Gweithredu dros Blant. Ddim yn bodloni pob un o'r gofynion unigol? Mae astudiaethau'n dangos bod menywod a phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn llai tebygol o ymgeisio am swydd oni bai eu bod yn bodloni pob cymhwyster. Felly, os ydych yn teimlo'n gyffrous ynglŷn â'r swydd hon ond nad yw'ch profiad yn cyd-fynd yn berffaith â'r swydd-ddisgrifiad, byddem wrth ein bodd pe baech yn gwneud cais beth bynnag. Efallai mai chi yw'r person delfrydol ar gyfer y swydd hon, neu swydd arall o fewn teulu Gweithredu dros Blant. Full details and application documents here Comments are closed.
|
News & JobsNews stories and job vacancies from our member agencies, the fostering sector and the world of child protection and safeguarding as a whole. Browse Categories
All
|